Y Gwir Anrhydeddus Lucy Frazer AS
 Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
 Llywodraeth y DU

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
 —
 Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddDiwylliant@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddDiwylliant
 0300 200 6565
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddCulture@senedd.wales 
 senedd.wales/SeneddCulture
 0300 200 6565
 

 

 

 


11 Ionawr 2024

Yr amgylchedd gwaith a’r awyrgylch yn S4C

Annwyl Lucy,

Ysgrifennaf atoch yn dilyn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor gyda Rhodri Williams a Chris Jones, fel Cadeirydd ac aelod anweithredol arweiniol o Fwrdd S4C heddiw (11 Ionawr 2024).

Mae S4C yn sefydliad unigryw, ac mae ei llwyddiant yn allweddol i Gymru fel cenedl. Mae gwaith y sianel dros y pedwar degawd diwethaf yn darparu cynnwys Cymraeg wedi bod yn hollbwysig, yn ogystal â rôl S4C yn cefnogi’r nod trawsbleidiol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Fel Pwyllgor, credwn fod y digwyddiadau diweddar yn y sianel yn bennod ofnadwy yn hanes S4C. Daeth yn amlwg o ddigwyddiadau diweddar y bu methiannau difrifol o ran arweinyddiaeth weithredol ac anweithredol yn y sianel. Mae dau uwch arweinydd gweithredol wedi gadael y sefydliad o ganlyniad eisoes. Fodd bynnag, nid y tîm gweithredol yn unig sy’n gyfrifol am arwain y sefydliad.

Rydym o’r farn bod gan y Bwrdd rôl hefyd o ran darparu arweinyddiaeth. Mae enghreifftiau clir lle dylai Cadeirydd y Bwrdd fod wedi bod yn ymwybodol o’r amgylchedd gwaith yn y sianel. Mewn sefydliad o faint S4C, dylai fod wedi bod yn amlwg i'r Cadeirydd bod problemau sylweddol. Dylai’r niferoedd uchel o staff a oedd yn gadael y sianel fod wedi ei rybuddio. Mae'r ffaith na sylwodd ar hyn yn awgrymu methiant ar ran y Cadeirydd o safbwynt trosolwg a llywodraethiant. Yn hynny o beth, rydym yn argymell y dylid penodi Cadeirydd newydd i arwain Bwrdd S4C wrth i’r sefydliad geisio adfer ac adnewyddu ei enw da.

At hynny, rydym yn ei chael hi’n gwbl annerbyniol nad ydych chi fel Ysgrifennydd Gwladol, nac yn wir eich rhagflaenwyr, wedi gweld yn dda i gwrdd ag arweinyddiaeth S4C, darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn y DU, y mae gennych gyfrifoldeb yn y pen draw dros ei lywodraethiant. Fel y gwnaed yn glir i ni heddiw, gwnaed ceisiadau am gyfarfod rhwng S4C a’r Ysgrifennydd Gwladol i drafod y sefyllfa sydd ohoni. Cawsom ein syfrdanu o glywed na chafodd y ceisiadau hynny eu derbyn. Yn ein barn ni, mae’r difaterwch hwn wedi tanseilio’r egwyddor bod llywodraethiant S4C yn fater sydd wedi’i gadw’n ôl i Lywodraeth y DU. Byddem yn eich annog felly i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol yn y broses o benodi Cadeirydd nesaf S4C, fel bod cyfrifoldeb ar y cyd rhwng DCMS a Llywodraeth Cymru dros wneud y penodiad.

Yn gywir,

Delyth Jewell AS
Cadeirydd y Pwyllgor

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.